LLAIS DILYS I BOBL IFANC

posted in: Cymru | 0

Mae Comiwnyddion yn croesawu pleidleisiau a llais pobl ifanc yn yr etholiad yma. Yr etholiadau hyn i’r Senedd fydd y rhai cyntaf lle y caniateir i bobl 16 ac 17 blwydd oed (a dinasyddion gwledydd eraill sy’n preswylio’n gyfreithlon yma) bleidleisio yng Nghymru, a disgwylir i ryw 65,000 o ddinasyddion dan 18 oed fanteisio ar hyn.

Mae’r hawl i bleidleisio’n 16 oed yn rhan o bolisi’r Blaid Gomiwnyddol ers dechrau’r 1990au.

Mae gweithwyr ifanc a myfyrwyr yn wynebu heriau cynyddol, ac maent yn haeddu’r hawl i gymryd rhan gyflawnach mewn etholiadau. Maent wedi cael eu curo’n drwm eisoes gan  Cofid-19. Rydym yn byw hefyd drwy epidemig o broblemau iechyd meddwl ymhlith pobl ifanc.

Mae’r gyfradd ddiweithdra ymhlith pobl 18-24 oed wedi dyblu a mwy ers mis Mawrth 2020 nes cyrraedd 14% — un o bob saith o bobl ifanc. Mae bron hanner y gweithwragedd ifanc yng Nghymru, a mwy na chwarter y dynion ifanc, yn y sectorau ‘wedi cau’. Gallai ugeiniau o filoedd golli eu swyddi pan ddaw’r cyfnod ‘ffyrlo’ i ben ym mis Hydref.

Mae llu o weithwyr eraill yn wynebu’r tebygrwydd o ddioddef swyddi ansicr, anfoddhaus, isel eu cyflog, prentisiaethau anghymwys, neu swyddi di-ddyfodol yn yr ecónomi gig.

Mae’n rhaid i fyfyrwyr coleg a phrifysgol weithio am oriau hir iawn hefyd i’w cynnal eu hunain. Diolch i ffioedd dysgu, dyled yw eu profiad cyntaf o fywyd fel oedolion. Mae hyn yn warthus.

Mae hyd yn oed pobl sydd mewn gwaith neu yn y coleg yn ei chael hi’n anodd i gael hyd i gartref yn eu cymuned leol, ger eu teulu neu yn yr ardal lle maent yn awyddus i fyw. Yn aml iawn mae perchentyaeth yn freuddwyd gwrach i’r to ifanc, neu’n dibynnu ar etifeddu.

Mae troseddau treisgar ac ymddygiad gwrthgymdeithasol wrthi’n cynyddu ar led ein cymdeithas, gan effeithio’n anghymesur ar bobl ifanc.

Ni allwn ni ganiatáu i’r to presennol droi’n genhedlaeth gyntaf yn yr oes fodern i gael bywyd gwaeth na’r rhai a aeth o’u blaenau. Yn wyneb adfyd, mae pob hawl gan bobl ifanc i frwydro dros ddyfodol gwell.

Dyna pam mae’r Comiwnyddion yn galw am fynediad am ddim i ganolfannau hamdden a chyfleusterau eraill a weithredir gan gynghorau lleol, ynghyd ag ymgyrch i annog pobl ifanc i’w defnyddio’n rheolaidd.

Mae’n hanfodol bwysig hefyd i ganolfannau ieuenctid gael eu hail-agor a’u hehangu wrth inni ddod allan o gyfnodau cloi Cofid, er mwyn cynnig i bobl ifanc fannau cyfeillgar, agored lle gallant ymgynnull a chymdeithasu y tu allan i addysg neu’r gwaith.

Mae angen hefyd i effeithiau negyddol cyni ar lyfrgelloedd a chyfleusterau a gwasanaethau hamdden gael eu gwrthdroi, trwy ddarparu grantiau arbennig i sicrhau rhwyddfynediad atynt i’n cyd-ddinasyddion anabl ni. Mewn ardaloedd gwledig ac yng nghanol dinasoedd, dylai cynghorau sefydlu canolfannau rhyngrwyd a gwasanaethau digidol i sicrhau rhwyddfynediad di-dâl i bobl sydd heb Wi-Fi.

Ni fydd hyn i gyd yn bosibl, wrth gwrs, oni chwistrellir cyllid ar frys ac yn y tymor hwy i’r gwasanaethau iechyd a chymunedol sydd wedi dioddef degawd o ddinistr yn sgil cwtogiadau cibddall mewn gwariant cyhoeddus.

Cynghrair y Comiwnyddion Ifanc (YCL) yw’r mudiad ieuenctid gwleidyddol cyflymaf ei dwf ym Mhrydain. Wrth ddathlu ei chanmlwyddiant, mae’r YCL wedi lansio ei hymgyrch fwyaf ers degawdau dros ennill cefnogaeth i’w Siarter ieuenctid (https://ycl.org.uk/youth-charter/).

Mae amcanion y Siarter yn cynnwys:

  • Gwir gyflog byw, a rhoi terfyn ar yr arfer o droi swyddi’n rhai dros dro a gwahaniaethu ar sail oedran mewn cyflogau.
  • System newydd o brentisiaethau a swyddi go iawn â hawliau i ymuno ag undeb llafur a sicrwydd cyflogaeth.
  • Mwy o dai cyngor a rheoleiddio ar renti’r sector preifat gan awdurdodau lleol.
  • Cardiau teithio ar y rhwydwaith cludiant cyhoeddus i bobl ifanc, am brisiau fforddiadwy wedi’u capio.
  • Addysg rad ac am ddim mewn colegau a phrifysgolion.
  • Mynediad di-dâl i gyfleusterau diwylliant, hamdden a chwaraeon y Llywodraeth a chynghorau lleol.
  • Mynediad di-dâl i holl wasanaethau gofal iechyd y GIG a gwell gwasanaethau iechyd meddwl ac iechyd rhywiol.

Pobl ifanc yw’r dyfodol. Gallant greu Cymru well a byd gwell. Gallant ddibynnu ar Gomiwnyddion Cymru am eu cefnogaeth a’u cydsafiad.