GRYM I GYMRU

posted in: Cymru | 0

O ganlyniad uniongyrchol i Brexit, mae o leiaf 70 o bwerau penderfynu newydd i fod i ddod yn uniongyrchol i’r Senedd o Frwsel. Maent yn cwmpasu meysydd pwysig megis cludiant, ynni, adnoddau dŵr, yr amgylchedd, newid hinsawdd, contractau caffael cyhoeddus, hawliau cyfartal yn y gwaith, bioamrywiaeth mewn amaeth, lles anifeiliaid, rheoli gwastraff, rheoleiddio bwyd, safonau meddygol ac etholiadau.

Manylir ar y pwerau hyn yn y Revised Framework Analysis (2019) a gyhoeddwyd gan Swyddfa’r Cabinet yn Llundain.

Ond yn lle hysbysu pobl Cymru amdanynt neu frwydro dros eu trosglwyddo’n llwyr i Gymru a gweithio allan sut gellir eu defnyddio er budd pobl Cymru, mae’r rhan fwyaf o’r pleidiau yn y Senedd wedi treulio’r pum mlynedd diwethaf yn ymgyrchu dros eu cadw ym Mrwsel!

Mae Llafur Cymru, Plaid Cymru, y Democratiaid Rhyddfrydol a’r Gwyrddion i gyd wedi ceisio rhwystro a dymchwel canlyniad democrataidd refferendwm 2016 ar yr UE, pan bleidleisiodd pobl Cymru a Phrydain o blaid gadael UE’r busnesau mawr cyfalafol.

Manteisiodd y Torïaid ar y rhwystro a’r anhrefn yma ac enillasant Etholiad 2019 i San Steffan cyn ein tynnu allan o’r UE … gan gamddefnyddio Brexit i ddwyn pwerau economaidd a diwydiannol a gymerwyd oddi wrth y Senedd dan Ddeddf y Farchnad Sengl 2002.

Neb ond Plaid Gomiwnyddol Cymru sy’n haeru bod y pwerau hyn i gyd yn perthyn i Gymru, yn nwylo ein cynrychiolwyr etholedig ein hunain.

Ffederaliaeth Flaengar

A ninnau wedi gadael yr UE bellach, mae yna gyfle i greu Prydain ffederal flaengarol seiliedig ar hunanlywodraeth, cyfartaledd a chydgefnogaeth rhwng ei thair cenedl.

Dyna’r unig ddewis realistig heblaw am undeboliaeth — sy’n parhau sefyllfa lle cedwir rheolaeth dosbarth llywodraethol – Seisnig i raddau helaeth – dros wleidyddiaeth ac ecónomi Cymru — ac am ‘ymwahaniaeth’, sy’n gwadu’r cysylltiadau economaidd a chymdeithasol clòs rhwng Cymru a Lloegr a rhwng ein mudiadau llafur a blaengar.

Byddai fersiwn Plaid Cymru o ‘annibyniaeth’ yn ildio’r pwerau y mae mawr eu hangen arnom yng Nghymru i Gomisiwn anetholedig yr UE, Banc Canolog anatebol Ewrop, a Llys Cyfiawnder yr UE sy’n elyniaethus i undebau llafur. Trysorfa Llundain fyddai’n rheoli ein harian.

Ar yr un pryd byddai ymwahanu’n wleidyddol o Brydain yn gadael i’r dosbarth tra chyfoethog sy’n heidio o gwmpas Dinas Llundain a de ddwyrain Lloegr gadw’r cyfoeth anferth a gynhyrchir gan weithwyr Cymru, yr Alban a Lloegr.

Mae Comiwnyddion Cymru’n galw am Dreth ar Gyfoeth a fyddai’n ei ail-ddosbarthu i bobloedd pob cenedl a phob rhanbarth ym Mhrydain.

Mae’r Blaid Gomiwnyddol yn galw am hunanlywodraeth i Gymru mewn Prydain ffederal ers mwy na 70 mlynedd. Mae’r polisi’n ennill cefnogaeth bellach ymhlith rhai ym mudiad Llafur Cymru.

Dymunwn weld pobl sy’n gweithio a’u cynghreiriaid yn ennill mwy o reolaeth dros y monopolïau cyfalafol, ac adnoddau economaidd a chyllidol yn cael eu dosrannu ar lefelau ffederal, cenedlaethol a rhanbarthol.  

Mae argyfwng Cofid wedi dangos yn anad dim faint rydym yn dibynnu ar bobl sy’n gweithio am bopeth — am ein hiechyd, ein diogelwch, ein bwyd, ein cyflenwadau ynni a’n system gludiant.

Mewn cymdeithas a symbylir gan elw cwmnïau, mae chwant y rhanddeiliaid mawr yn drech bob amser nag anghenion pobl sy’n gweithio a’u teuluoedd.

Dyna pam mae’r Blaid Gomiwnyddol yn datgan:

Cyfalafiaeth yw’r argyfwng — Sosialaeth yw’r ateb

Pleidleisiwch i’r Comiwnyddion. Pleidleisiwch dros eich cymuned. Pleidleisiwch dros les y mwyafrif.