Y Blaid Gomiwnyddol Gymreig Logo
Graphic 8
WhatsApp Image 2021-02-25 at 17.59.27
Graphic 2
previous arrow
next arrow

Mae’r Comiwnyddion yn sefyll ym mhob ranbarth o Gymru yn yr etholiad Senedd ar Fai 6.

GRYM GO IAWN I WERIN CYMRU!

Mae’r Comiwnyddion yn brwydro i adennill y pwerau diwydiannol a ddygwyd o’n Senedd gan Ddeddf Marchnad Fewnol y llywodraeth Dorïaidd. Yna gallwn achub ein diwydiant dur. Ar ôl Brexit, mae disgwyl i 70 o bwerau llunio polisi yn dod i Senedd Cymru yn y meysydd ynni, trafnidiaeth, yr amgylchedd, newid hinsawdd, hawliau yn y gwaith, gwariant cyhoeddus ac amaethyddiaeth. Mae Comiwnyddion yn eu mynnu yn llawn. Roedd Llafur Cymru, Plaid Cymru, y Gwyrddion a LibDems eisiau iddyn nhw aros ym Mrwsel a’r UE!

Ond mae angen pwerau ariannol arnom hefyd i gadw cyfran o dreth incwm, codi trethi ar ddatblygiad moethus a chael benthygion llog isel ar gyfer buddsoddi.

DIM MWY AM FUSNES MAWR!

Gwariwyd cannoedd o biliynau o bunnoedd i achub y banciau ers 2008 a busnes mawr heddiw. Arian cyhoeddus yw hwn. Mae arnom ei angen i fuddsoddi yn y GIG, gwasanaethau cyhoeddus, tai, yr amgylchedd, trafnidiaeth a chyflog cymdeithasol a phensiwn i bob gofalydd. Dylai cymorthdaliadau cyhoeddus i fusnesau mawr gael eu paru â pherchnogaeth gyhoeddus.

PEIDIWCH Â GWASTRAFFU EICH AIL BLEIDLAIS!

Os yw Llafur neu Blaid Cymru yn gryf y eich rhanbarth, maent yn annhebygol o ennill seddi ranbarthol. Felly peidiwch â gwastraffu eich ail bleidlais – pleidleisiwch i’r Comiwnyddion, am bŵer go iawn i bobl Cymru mewn Prydain ffederal!

COMIWNYDDIAETH – ‘GWNAETHPWYD YNG NGHYMRU’!

Hyrwyddodd Robert Owen o’r Drenewydd syniadau comiwnyddol a chydweithredol yn y 1830au – ddegawdau cyn Karl Marx!

Mae gan y Blaid Gomiwnyddol hanes balch yn ymladd dros bobl Cymru a’r dosbarth gweithiol. Rydym wedi cefnogi Senedd bwerus dros Gymru am yr 80 mlynedd diwethaf. Buom yn ymgyrchu am TUC Cymru a Chomiwnydd oedd ei gadeirydd cyntaf, sef Dai Francis, arweinydd glowyr De Cymru.

Mae Comiwnyddion bob amser wedi bod yn rheng flaen ymgyrchoedd dros swyddi, hawliau’r gweithwyr, gwasanaethau cyhoeddus a gwell tai – ac yn erbyn llygredd a rhyfeloedd tramor.

CYFALAFIAETH yw’r problem — yr ateb yw SOSIALAETH


GRYM I GYMRU

O ganlyniad uniongyrchol i Brexit, mae o leiaf 70 o bwerau penderfynu newydd i fod i ddod yn uniongyrchol i’r Senedd o Frwsel. Maent yn cwmpasu meysydd pwysig megis cludiant, ynni, adnoddau dŵr, yr amgylchedd, newid hinsawdd, contractau caffael cyhoeddus, … Continued

LLAIS DILYS I BOBL IFANC

Mae Comiwnyddion yn croesawu pleidleisiau a llais pobl ifanc yn yr etholiad yma. Yr etholiadau hyn i’r Senedd fydd y rhai cyntaf lle y caniateir i bobl 16 ac 17 blwydd oed (a dinasyddion gwledydd eraill sy’n preswylio’n gyfreithlon yma) … Continued

GRYM I RIENI A GOFALWYR

Nid yw mathau o waith nad ydynt yn creu elw – megis gofalu am aelodau teulu — yn cael eu gwerthfawrogi fel y dylent yn ein cymdeithas ni. Fel y mae’r pandemig wedi dangos, mae’r un peth yn wir am … Continued

GRYM YN Y GYMUNED

Cymunedau glanach, diogelach, cysylltiedig Rhaid inni wneud yn siŵr bod pobl yn gallu teithio’n gyfforddus, ac mewn modd fforddiadwy, i’w gweithle yn eu cymuned leol neu’n agos iddi. Bydd hyn yn gostwng allyriadau carbon ac yn helpu ein cymunedau i … Continued

GRYM YN Y GWEITHLE

Mae gwir ddemocratiaeth yn ymestyn ymhellach na’r bocs pleidleisio; mae’n cwmpasu’r grym y mae pobl sy’n gweithio’n dyheu amdano yn eu bywydau o ddydd i ddydd.  Mae’r mesurau cadarnhaol yn Neddf Undebau Llafur (Cymru) 2017 yn dangos sut gall y … Continued

PWERAU CYLLIDOL

Mae ar Lywodraeth Cymru angen y pwerau i godi cyllid a buddsoddi mewn economïau lleol a rhanbarthol. Mae gormod o’n cymunedau ni wedi cael eu hesgeuluso ers degawdau. Ni all hyn barhau. Rhaid i’r Senedd a’r awdurdodau lleol gael mwy … Continued

PWERAU ECONOMAIDD AC AMGYLCHEDDOL

Brwydro yn ôl yn erbyn diweithdra! Yng Nghymru rydym yn gwybod gystal â neb sut mae diweithdra torfol yn difrodi bywydau a chymunedau lleol. Mae’n creu pryder ac ofn, adfyd economaidd, yn rhwygo teuluoedd, yn creu dyled, tlodi, camfaethiad a … Continued

DOD DROS GYFNOD COVID

Mae Plaid Gomiwnyddol Cymru’n deall yn iawn bod pobl wedi ymlâdd ac yn teimlo’n gleisiog yn sgil argyfwng Cofid-19. Mae llawer wedi colli anwyliaid. Mae’n amser caled – ac yn galetach i rai nag i eraill. Rydym yn deall hefyd … Continued