PWERAU ECONOMAIDD AC AMGYLCHEDDOL

posted in: Cymru | 0

Brwydro yn ôl yn erbyn diweithdra!

Yng Nghymru rydym yn gwybod gystal â neb sut mae diweithdra torfol yn difrodi bywydau a chymunedau lleol. Mae’n creu pryder ac ofn, adfyd economaidd, yn rhwygo teuluoedd, yn creu dyled, tlodi, camfaethiad a digartrefdra. Mae pobl yn digalonni wrth golli eu hyder a’u hurddas. Tanseilir ymddiriedaeth a chydgefnogaeth ymhlith cydweithwyr wrth i gyflogau ac amodau gweithio gael eu tanseilio.

Nid gweithwyr dioglyd na barus, streicwyr, ‘crafangwyr budd-daliadau’, mewnfudwyr yn ‘lladrata ein swyddi’ na gweithwyr heb sgiliau sy’n achosi diweithdra. Y rhain yw’r bobl a dargedir i’w beio gan wasg a gwleidyddion yr asgell dde, sy’n awyddus i hau anghydfod ar adeg pan mae angen undod arnom.

Rydym bellach yn wynebu cynnydd mewn diweithdra yn sgil argyfwng Cofid. Ond nid dyma wreiddyn y broblem.

Ar wahanol adegau mae niferoedd mawr o weithwyr wedi cael eu diswyddo bob amser. Digwyddai cyn Cofid-19 ac fe ddigwydd eto ar ei ôl.

Mae cyfalafiaeth yn system lle mae’r chwant am elw’n creu ffyniant, gormodedd a chwymp, dro ar ôl tro. Ar ben hyn, gall diwydiannau a rhanbarthau cyfan ddirywio. Mae tra-arglwyddiaeth bancwyr a hapfasnachwyr Dinas Llundain dros ein hecónomi yn ei gwneud hi’n fwy ansefydlog ac anghyfartal fyth.

Mae llywodraethau Torïaidd yn ceisio sicrhau mai pobl sy’n gweithio a’u teuluoedd fydd yn talu am bob argyfwng â’u swyddi a’u bywoliaeth. Wedyn, wrth i gwmnïau cystadleuol fethu gan droi llafur yn rhatach, dyma’r corfforaethau mawr yn ei chael hi’n broffidiol unwaith eto i ail-greu swyddi, ail-fuddsoddi a dychwelyd at gynhyrchu nwyddau.

Ein nodau strategol

Dim ond un system economaidd — sef sosialaeth — sy’n seiliedig ar gynllunio democrataidd, perchnogaeth gan y cyhoedd ar ddiwydiannau strategol, buddsoddiad mewn technoleg fodern, gynaliadwy, gwasanaethau cyhoeddus tra safonol a chyflogaeth lawn fydd yn rhoi terfyn ar argyfyngau dinistriol cyfalafiaeth.  

Yn y cyfamser, yr hyn sydd ei angen arnom yng Nghymru a Phrydain yw llywodraethau a pholisïau a fydd yn:

  • Rhoi’r flaenoriaeth bennaf i warchod swyddi mewn diwydiannau a gwasanaethau hanfodol.
  • Gwahardd arferion megis godro asedion, diswyddo torfol a chynlluniau ‘diswyddo ac ail-gyflogi’.
  • Gosod cwmnïau sy’n methu dan berchnogaeth ddemocrataidd y cyhoedd.
  • Hybu technolegau newydd fydd yn cynnal gwerth cyflogau, lleihau oriau gwaith a gwella amodau gweithio.
  • Cynllunio’r ecónomi er mwyn sicrhau y bydd gennym ddatblygiad cytbwys, cynaliadwy fydd yn gwella safonau byw pobl ym mhob man.

Perchnogaeth a buddsoddiad gan y cyhoedd

Ni lwyddir byth i greu sail ddiogel a sefydlog i’r ecónomi os daliwn ni i ddibynnu ar fusnesau mawr, buddsoddwyr estron ac ‘entrepreneurs’ cyfalaf antur.

Mae’r rhain yn dod i Gymru, yn derbyn cyllid cyhoeddus i sefydlu neu ehangu eu gweithgareddau, ac wedyn yn cymryd y goes … neu’n dal ffiol gardod fwy byth dan ein trwynau. Yn aml mae hyn yn gyrru contractwyr bach i’r clawdd, tra mai’r hyn sydd angen arnynt yw lle diogel yn y gadwyn gyflenwi. 

Mae Plaid Gomiwnyddol Cymru’n dadlau ers tro byd y dylid talu’n deg am gyllid cyhoeddus trwy roi cyfranddaliad i’r cyhoedd yn y cwmni. Gallai hyn olygu gwladoli mentrau busnes o bwys mewn achosion lle nad oes dewis arall ond methdaliad a diswyddo torfol.

Pan fydd nifer fawr o swyddi dan fygythiad mewn diwydiant strategol bwysig megis Airbus ym Mrychdwn neu Liberty Steel yn Llanwern, rhaid i ymyrraeth wladol uniongyrchol olygu nid yn unig cefnogaeth ariannol, ond daliad cyhoeddus yn y cwmni sy’n rhoi llais pwerus i lywodraeth ganolog a lleol.

Galwn yn arbennig am i Awdurdod Datblygiad Economaidd Cymreig gael ei sefydlu, a chanddo’r grym a’r adnoddau nid yn unig i fuddsoddi mewn mentrau newydd neu rai sy’n methu, ond hefyd i gyfeirio buddsoddiad cyfalaf preifat at y mannau lle mae’r angen mwyaf amdano. Mae Comiwnyddion Cymru’n galw ers amser maith am Gynllun Economaidd cynhwysfawr i Gymru, ond mae’n rhaid inni feddu hefyd ar y pwerau a’r adnoddau i roi’r fath gynllun ar waith.

Yn ogystal, dylai sefydliadau mewn llywodraeth leol a’n cymunedau ni feddu ar y pwerau a’r adnoddau i sefydlu mentrau newydd yn eu hardal, a hynny’n arbennig er mwyn hybu cynlluniau ynni a chludiant cymunedol, prosiectau technoleg ‘werdd’, gwella cartrefi ac ati. Gellid trefnu gweithredu llawer o’r rhain fel mentrau cydweithredol, yn rhoi rôl i’r gweithwyr ac i’r cymunedau yn y broses benderfynu.

Polisïau dros ein planed

Mae argyfwng presennol yr hinsawdd wedi digwydd o ganlyniad i arferion gwastraffus a gorgynhyrchu’r gyfundrefn gyfalafol. Yng Nghymru rydym wedi gweld ein hadnoddau naturiol yn cael eu hecsbloetio ers canrifoedd er budd busnesau mawr sydd yn aml â’u gwreiddiau y tu allan i’n gwlad, ac mae hyn wedi cyfrannu’n fawr at yr argyfwng cyfredol. Rheibiwyd ein hadnoddau glo’n ddidostur, cafodd ein tir ei gamreoli a’n hadnoddau dŵr eu hysbeilio.

Mae Plaid Gomiwnyddol Cymru’n galw am fuddsoddiad sylweddol mewn ynni adnewyddadwy, cynnydd mewn cludiant cyhoeddus a chludo nwyddau ar y rheilffyrdd, a dynesiad newydd at ddefnyddio’r tir ac arferion amaethyddol.

Cydnabyddwn na ellir cefnogi’r Argae a argymhellwyd ar draws aber Afon Hafren oherwydd yr effeithiau niweidiol ar yr amgylchedd lleol, ond mae cynlluniau dan arweiniad y sector cyhoeddus i ddatblygu ynni mewn morlynnoedd llanw ym Mae Abertawe a Morfa Hafren yn cynnig buddion mwy a llai o effaith niweidiol. Mae angen dybryd hefyd inni ymchwilio i bosibiliadau cynlluniau i arneisio ynni’r llanw ym Morfeydd Dyfrdwy a Chlwyd. Mae posibiliadau hefyd efallai o ehangu ffermydd gwynt ar y môr o gwmpas Cymru.

Dylid anelu am y nod o droi’n gyfangwbl at adnoddau adnewyddadwy. Dros y cyfnod pontio rydym yn cefnogi datblygiad glo glân o byllau dwfn ynghyd â thechnoleg ddal carbon, heb fwyngloddio brig. Mae hyn yn cynnig opsiwn diogelach o lawer nag ymholltiad niwclear fel tanwydd pontio. Rydym yn cefnogi’r rhai sy’n brwydro dros Gymru ddi-niwclear, nes y gellir arddangos bod opsiwn ymasiad niwclear diogel ar gael.

Dan gyfundrefnau’r UE, mae ein harferion amaethyddol wedi cael eu cynllunio at allforio i farchnad yr UE, tra’n gadael ein sector manwerthu’n agored i fewnforio ar raddfa lethol. Dim ond un esiampl ymhlith llawer, o ganlyniadau amgylcheddol mewnforio maint anferth o gig oen o Seland Newydd tra’n bod ninnau’n allforio 95% o gig oen Cymru, yw anhrefn y system farchnata bresennol.

Trwy newid y pwyslais at anghenion lleol, gallem ryddhau cyfran helaeth o dir amaethyddol Cymru i ddibenion amgen megis dal a storio carbon yn naturiol, ail-goedwigo ac adfer corstiroedd naturiol. Cydnabyddwn fod y cynlluniau masnachu carbon a ddatblygwyd gan yr UE a Chonfensiwn Fframwaith y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd yn ymgais arall i symud baich argyfwng yr hinsawdd oddi ar y busnesau cynhyrchu mawr a’u cefnogwyr mewn llywodraeth sydd yn bennaf gyfrifol. Yr hyn sydd angen arnom yw i ddiwydiannau cael eu rheoleiddio’n uniongyrchol ac i ostyngiad carbon gael ei gyllido trwy drethi uniongyrchol, yn lle gadael i’r llygrwyr mawr barhau i ddinistrio’r blaned.