PWERAU CYLLIDOL

posted in: Cymru | 0

Mae ar Lywodraeth Cymru angen y pwerau i godi cyllid a buddsoddi mewn economïau lleol a rhanbarthol. Mae gormod o’n cymunedau ni wedi cael eu hesgeuluso ers degawdau. Ni all hyn barhau.

Rhaid i’r Senedd a’r awdurdodau lleol gael mwy o ryddid o’r llywodraeth ganolog a Whitehall fel y gallant godi cyllid ar log isel o’r Bwrdd Benthyciadau Gwaith Cyhoeddus ac ar y marchnadoedd cyfalaf.

Dylid sefydlu treth incwm leol yn lle Treth y Cyngor, wedi’i seilio ar allu pobl i’w thalu. Bydd hyn yn rhoi terfyn ar yr annhegwch a berir heddiw i aelwydydd isel eu hincwm. 

O ganlyniad i Brexit, nid yw rheolau’r UE a gyfyngai gynt ar hawl llywodraethau datganoledig a lleol i ddyfarnu contractau caffael cyhoeddus yn lleol mewn grym bellach. Rhaid i’r pŵer newydd hwnnw gael ei ddatganoli’n llawn i’r Senedd, fel y gellir rhoi blaenoriaeth i hyrwyddo swyddi a busnesau yn ein cymunedau lleol.

Yn ogystal mae gadael yr UE yn galluogi Banc Lloegr i gynnig cyfleusterau credyd llog isel a phrynu bondiau i lywodraethau datganoledig a lleol a chyrff cyhoeddus eraill; dylid manteisio’n llawn ar hyn pan fydd y telerau’n fwy ffafriol nag ar y farchnad ‘rydd’.

Nid yw fformiwla grantiau bloc Barnett yn cydnabod anghenion cymunedau dosbarth gweithiol wrth ddyrannu cyllid o gronfeydd lleol i Gymru ac i’n gwasanaethau cyhoeddus lleol ni. Rhaid i hyn gael ei ddisodli gan drefniadau na fyddant yn gadael Cymru dan anfantais.

Ar ben hyn, rhaid i’r Senedd feddu ar ei phwerau trethu ei hun i roi terfyn ar ein dibyniaeth lwyr bron ar lywodraethau canolog yn Llundain. Dylent gynnwys yr hawl i gadw cyfran o’r refeniw PAYE a gesglir yng Nhymru, i gynyddu’r cyfraddau treth incwm uchaf, ac i gyflwyno ei threthi ei hun a’i hardollau ei hun ar gyfoeth, tir ar gyfer datblygu a phrosiectau ‘moethus’.

Mae’r system fudd-daliadau’n rhaff achub hanfodol i lawer. Nid yw’n cael ei gweithredu’n deg yng Nghymru, lle mae talu budd-daliadau salwch ac analluogrwydd yn fwy cyffredin. Dylai ein llywodraeth ein hun fod â’r pŵer i ychwanegu at fudd-daliadau penodol lle bo’r cyllid yn ddigonol, gan sicrhau eu bod yn cael eu talu mewn modd trugarog.

Dan yr amgylchiadau cyfredol, er enghraifft, dylai Senedd a Llywodraeth Cymru feddu ar y pŵer a’r adnoddau i atgyfnerthu’r taliad ychwanegol wythnosol o £20 nes cyrraedd lefel sylfaenol Credyd Cynhwysol. Disgwylir ar hyn o bryd iddo gael ei ddiddymu ym mis Hydref, gan daflu degau o filoedd o deuluoedd yng Nghymru’n ddyfnach i dwll tlodi.

Cyllido gofal hirdymor

Cydnabu Llywodraeth Cymru’r her o gynllunio ar gyfer gofal hirdymor wrth iddi gomisiynu Adroddiad Holtham, Talu am Ofal yng Nghymru. Ond mae yna fylchau sylweddol yng nghanfyddion yr Adroddiad.

Mae argymhellion Holtham ynghylch clustnodi cyfran o’r dreth incwm ar gyfer gofal cymdeithasol yn anwybyddu’r potensial a gynigir gan dreth ar gyfoeth ac elw.

Credwn ni fel Comiwnyddion y dylai cyfoeth cronedig, boed yn breifat neu’n gorfforaethol, ynghyd ag elw busnesau mawr, gyfrannu at gyllido gofal cymdeithasol. Yng Nghymru, yn debyg i wledydd eraill, ni ddylai’r baich hwnnw bwyso’n gyfangwbl nac yn bennaf ar ysgwyddau unigolion sy’n talu treth incwm.

Mae’r Blaid Gomiwnyddol yn cynnig y dylid gorfodi’r cyfoethogion a busnesau mawr ledled gwledydd Prydain i dalu am yr holl gymorth ariannol a roddir iddynt trwy’r Dreth ar Gyfoeth; gosod treth ar yr hap-elw ac unrhyw or-elw arall a gaiff y sector bancio; cynyddu cyfraddau uchaf y Dreth ar Enillion Cyfalaf; a gweithredu cynnydd yn ddioed ar y Dreth Gorfforaeth a delir gan fentrau busnes mawr.